FRMAND

Mae ein sylfaenydd label recordiau FRMAND yn Gyfansoddwr Caneuon, Cynhyrchydd a DJ aml-genre dwyieithog o Langrannog, Cymru. Ar ôl bod yn breswylydd mewn dau ddigwyddiad dawns yn Ne Cymru sef Altitude & Sink, enillodd fomentwm yn y sin gerddoriaeth Gymraeg trwy gyfuno’r iaith â chyfres o draciau cerddoriaeth ddawns ar draws sawl genre. Mae wedi rhyddhau cerddoriaeth ar Recordiau BICA a Shimi Records, gyda thraciau i’w glywed ar orsafoedd radio ar draws y byd megis BBC Music Introducing, BBC Radio Wales, BBC Radio Cymru a Capital. Cafodd ei drac 'Heuldy' efo Mali Haf ei ddewis fel 'Trac yr Wythnos' gan gyflwynydd radio'r BBC Huw Stephens.


Mae FRMAND wedi cefnogi rhai o artistiaid cerddoriaeth ddawns mwyaf y DU fel High Contrast, Chris Lorenzo, Apexape, David Rodigan, Blonde & Aloka. Mae FRMAND wedi cydweithio ag artistiaid Cymreig enfawr eraill megis Yws Gwynedd, Sorela, Lowri Evans, Dafydd Hedd a Mali tra’n anelu at hyrwyddo cerddoriaeth ddawns Gymraeg trwy greu traciau a remixes gwreiddiol ar draws sawl genre yn y Gymraeg.


//


Our very own record label founder FRMAND is a multi-genre and bilingual dance/electronic music Songwriter, Producer & DJ from Llangrannog, Wales. Having previously been the resident at two South Wales based events, Altitude & Sink, he gained momentum in the Welsh Language music scene through fusing the language with a series of dance music tracks across multiple genres. He has released music on both BICA Records & Shimi Records, with tracks featured on radio stations across the world such as BBC Music Introducing, BBC Radio Wales, BBC Radio Cymru and Capital. His track 'Heuldy' was selected as BBC Radio Presenter Huw Stephens' 'Track of the Week'.


FRMAND has supported some of the UK’s biggest & upcoming dance music artists such as High Contrast, Chris Lorenzo, Apexape, David Rodigan, Blonde & Aloka. FRMAND has collaborated with other huge Welsh artists such as Yws Gwynedd, Sorela, Lowri Evans, Dafydd Hedd and Mali whilst aiming to promote Welsh Language dance music through creating original tracks & remixes across multiple genres in Welsh.

Image of FRMAND

FRMAND